1 Samuel 27

Dafydd yn byw gyda'r Philistiaid

1Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”

2Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achis, mab Maoch. 3Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achis yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel, gweddw Nabal. 4Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano.

5Dyma Dafydd yn gofyn i Achis, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.” 6Felly dyma Achis yn rhoi tref Siclag
27:6 Siclag Roedd Siclag rhyw un deg pum milltir i'r de-ddwyrain o Gasa.
i Dafydd y diwrnod hwnnw (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)
7Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a pedwar mis.

8Byddai Dafydd yn mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Girsiaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.) 9Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achis. 10Os byddai Achis yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.” 11Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth oedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia. 12Roedd Achis yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”

Copyright information for CYM